St David's Uniting

Baptist, Presbyterian and United Reformed Church, Treforest
  • Email
  • Facebook
  • Instagram
  • Twitter
  • YouTube
Connect With Us!
  • Home
  • About us
    • Our Vision
    • Church Constitution
    • History
      • Church House History
    • Cymraeg
  • Church Life
    • Justice and Peace
    • Sermons
  • Projects
    • Community Saints
    • God Bless The NHS
    • Voices
    • Picturing Ponty
  • Contact us
    • How to find us
  • What’s On?
    • Calendar
    • Latest News
    • Advent and Christmas 2024
  • Partners
    • South Wales Baptist Association
    • United Reformed Church Synod of Wales
    • Presbyterian Church of Wales
    • Baptist Union of Great Britain
    • Council for World Mission
    • Crime Reduction Initiative
    • Pontypridd Foodbank
    • Christian Aid
    • Siopa Teg
    • The Village Presbyterian Church, Christchurch NZ
    • Cytûn: Churches Together in Wales
    • Displaced Persons in Action
Search the site...
  • Home
  • News
  • Prosiect Ffotograffeg Cymunedol

Prosiect Ffotograffeg Cymunedol

October 4, 2013 / St. David's Uniting / News, Picturing Ponty

Dywedir mai cyfwerth llun a llith … Mae Eglwys Undebol Dewi Sant, Heol Gelliwastad, yn eich gwahodd i archwilio ystyr “Ein Cymuned”: beth ydy ei hanghenion, ei heiddo, ei harddwch, ei hetifeddiaeth a’i hanes, a beth gellir ei wneud i hyrwyddo’i delwedd a gwella bywyd y sawl sy’n byw ynddi. Ein cam cyntaf yw eich gwahodd i gyfrannu tuag at arddangosfa o luniau ffotograffeg fydd yn cyflwyno sut mae unigolion a grwpiau yn gweld a dehongli’r syniad o ‘ein Cymuned’ a thrwy hynny cyd-greu darlun o ardal Pontypridd.

Gallwch gyfrannu un llun, neu grwp neu collage o luniau. Bydd eich lluniau yn ffurfio rhan o arddangosfa cyhoeddus yn ein capel yn ystod mis Mawrth 2014. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gweithdai, siaradwyr a lluniaeth ysgafn. Bydd gwobrau am y lluniau gorau gan blant a phobl ifanc. Rydym yn eich gwahodd i ddangos beth mae Pontypridd yn ei olygu i chi:

  • Hoff bethau
  • Beth sydd i’w ddathlu
  • Gogoniannau’r ardal
  • Gwendidau
  • Beth sydd yn eich poeni am yr ardal

Efallai bydd eich llun o

  • Berson
  • Grwp o bobl
  • Pobl yn gweithio neu yn chwarae
  • Pobl mewn angen neu ofid
  • Pobl yng nghanol eu problemau – neu eu campau
  • Digwyddiad
  • Clwb, côr neu dîm
  • Adeilad neu fan arbennig

Mae’r gwahoddiad i:

  • unigolion
  • clwbiau, cymdeithasau
  • ysgolion
  • eglwysi

Bydd gwobr am:

  • y llun unigol orau
  • yr arddangosfa orau gan ysgol neu grwp ieuenctid
Sut i gyflwyno eich cynnig

Danfonwch eich deunydd at Mrs. Pam Mahoney, 1, The Paddocks, Upper Church Village, Pontypridd, CF 38 1TL erbyn 29ain o Dachwedd 2013. Danfonwch y llun(iau) ar ffurf print a hefyd ar ffurf electroneg (e-bost neu carden cof). Y cyfeiriad ar gyfer e-bost yw [email protected]

Os oes ganddoch lun go fawr neu gasgliad o luniau cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i sicrhau bod digon o le i’w harddangos. Cofiwch bod yn ofalus a moesegol: PEIDIWCH DANFON LLUNIAU O BOBL HEB EU CANIATÂD.

Rydym yn gobeithio bydd yr arddangosfa yn cyflwyno darlun onest o’r gymuned, ond mae’r hawl gyda ni i wrthod dangos unrhyw lun rydym yn tybio ei fod yn anaddas neu yn dramgwyddus.

Share this:

  • Click to print (Opens in new window) Print
  • More
  • Click to email a link to a friend (Opens in new window) Email
  • Click to share on Facebook (Opens in new window) Facebook
  • Click to share on LinkedIn (Opens in new window) LinkedIn
  • Click to share on Pinterest (Opens in new window) Pinterest
  • Click to share on Pocket (Opens in new window) Pocket
  • Click to share on Reddit (Opens in new window) Reddit
  • Click to share on Tumblr (Opens in new window) Tumblr
  • Click to share on X (Opens in new window) X

Like this:

Like Loading...

Related

Comments are closed.

(c) 2013-20 St David's Uniting Church - Powered by WordPress, Theme by ThemeBlvd, Website by iChurch
%d