Dywedir mai cyfwerth llun a llith … Mae Eglwys Undebol Dewi Sant, Heol Gelliwastad, yn eich gwahodd i archwilio ystyr “Ein Cymuned”: beth ydy ei hanghenion, ei heiddo, ei harddwch, ei hetifeddiaeth a’i hanes, a beth gellir ei wneud i hyrwyddo’i delwedd a gwella bywyd y sawl sy’n byw ynddi. Ein cam cyntaf yw eich gwahodd i gyfrannu tuag at arddangosfa o luniau ffotograffeg fydd yn cyflwyno sut mae unigolion a grwpiau yn gweld a dehongli’r syniad o ‘ein Cymuned’ a thrwy hynny cyd-greu darlun o ardal Pontypridd.
Gallwch gyfrannu un llun, neu grwp neu collage o luniau. Bydd eich lluniau yn ffurfio rhan o arddangosfa cyhoeddus yn ein capel yn ystod mis Mawrth 2014. Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gweithdai, siaradwyr a lluniaeth ysgafn. Bydd gwobrau am y lluniau gorau gan blant a phobl ifanc. Rydym yn eich gwahodd i ddangos beth mae Pontypridd yn ei olygu i chi:
- Hoff bethau
- Beth sydd i’w ddathlu
- Gogoniannau’r ardal
- Gwendidau
- Beth sydd yn eich poeni am yr ardal
Efallai bydd eich llun o
- Berson
- Grwp o bobl
- Pobl yn gweithio neu yn chwarae
- Pobl mewn angen neu ofid
- Pobl yng nghanol eu problemau – neu eu campau
- Digwyddiad
- Clwb, côr neu dîm
- Adeilad neu fan arbennig
Mae’r gwahoddiad i:
- unigolion
- clwbiau, cymdeithasau
- ysgolion
- eglwysi
Bydd gwobr am:
- y llun unigol orau
- yr arddangosfa orau gan ysgol neu grwp ieuenctid
Sut i gyflwyno eich cynnig
Danfonwch eich deunydd at Mrs. Pam Mahoney, 1, The Paddocks, Upper Church Village, Pontypridd, CF 38 1TL erbyn 29ain o Dachwedd 2013. Danfonwch y llun(iau) ar ffurf print a hefyd ar ffurf electroneg (e-bost neu carden cof). Y cyfeiriad ar gyfer e-bost yw [email protected]
Os oes ganddoch lun go fawr neu gasgliad o luniau cysylltwch â ni os gwelwch yn dda i sicrhau bod digon o le i’w harddangos. Cofiwch bod yn ofalus a moesegol: PEIDIWCH DANFON LLUNIAU O BOBL HEB EU CANIATÂD.
Rydym yn gobeithio bydd yr arddangosfa yn cyflwyno darlun onest o’r gymuned, ond mae’r hawl gyda ni i wrthod dangos unrhyw lun rydym yn tybio ei fod yn anaddas neu yn dramgwyddus.