Pe byddai rhywun yn gofyn i chi dynnu llun o rywun neu rywbeth sy’n crynhoi Pontypridd i chi, tybed beth fyddai’r llun? Dyna’r her i bobl y dre gan gynllun o’r enw Llunio ein Lle, fydd yn cael ei gynnal dros y chwe mis nesaf.
Mae yna wahoddiad i unigolion a grwpiau gyflwyno ffotograffau sy’n dweud rhywbeth am ‘ein lle’. Gallai fod yn rhywbeth neu rywun i’w ddathlu (efallai arwr lleol sydd heb gael digon o gydnabyddiaeth, neu hoff fan). Gallai fod yn llun sy’n dweud rhywbeth am anghenion, rhagoriaethau, prydferthwch neu hanes Pontypridd. Gall y llun fod yn olygfa o’r dre neu’n llawn symudiad; gall fod yn bortread o unigolyn neu cynnwys grŵp o bobl; gall ddangos digwyddiad, man arbennig neu adeiladau. Bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn cael cyfle i esbonio mewn hyd at 100 o eiriau pam y gwnaethon nhw dynnu’r llun.
Mae ysgolion lleol eisoes wedi cytuno cymryd rhan a bydd croeso i ystod eang o grwpiau ac unigolion gyflwyno cais.
“Dathlu Pontypridd yw nod cynllun Llunio ein Lle” meddai Pam Mahoney, cydlynydd y cynllun. “Rydym yn awyddus i weld llawer o bobl wahanol yn cymryd rhan a llawer i olwg wahanol ar ein tref – y gwych a’r gwachul – i roi darlun cyflawn i ni. Fe fydd yn gyfle i Bonty siarad wrthi’i hun amdani’i hun.”
Uchafbwynt y cynllun fydd arddangosfa o luniau yn Eglwys Undebol Dewi Sant, Heol Gelliwastad, o’r 15fed i’r 29ain o Fawrth 2014 a rhaglen o weithdai a digwyddiadau yn cydredeg â hi.
Yn y cyfamser, dilynwch Llunio ein Lle ar Facebook ac ar Twitter i gadw mewn cysylltiad â’r holl digwyddiadau a’r newyddion diweddaraf am y cynllun.
Bydd angen cyflwyno’r ffotograffau ar ffurf ddigidol ac mewn copi caled. Gallwch gyflwyno un llun, cyfres o luniau neu collage. Bydd angen i chi gael caniatâd y sawl sydd yn y lluniau er mwyn i’r llun gael ei arddangos yn gyhoeddus ac ar y gwefannau. Gallwch ddod o hyd i’r rheolau a’r amodau ar y wefan www.picturingponty.org.uk.
Am fanylion pellach, cysylltwch â [email protected]
Nodiadau:
- Mae Llunio ein Lle yn gynllun celfyddydol cymunedol wedi’i drefnu gan Eglwys Undebol Dewi Sant, Pontypridd, gyda chymorthdal gan yr Eglwys Ddiwygiedig Unedig. Mae nawdd yn cael ei geisio am agweddau eraill ar y cynllun.